Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Llun, 20 Tachwedd 2017

Amser: 14.00 - 15.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4354


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Nick Ramsay AC (Cadeirydd)

Mohammad Asghar (Oscar) AC

Neil Hamilton AC

Vikki Howells AC

Adam Price AC

Tystion:

Katie Dalton, Cymorth Cymru

Enid Roberts, Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Stuart Ropke, Cartrefi Cymunedol Cymru

Katie Dalton, Cymorth Cymru

Rhian Stone, Cymorth Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru:

Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru

Matthew Mortlock

Staff y Pwyllgor:

Fay Bowen (Clerc)

Claire Griffiths (Dirprwy Glerc)

Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.

1.3        Talodd y Cadeirydd deyrnged i'r diweddar Carl Sargeant AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru o'r gyllid yn ystod y flwyddyn ar gyfer byrddau iechyd a chanfyddiadau adolygiad Deloitte o faterion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel rhan o Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. O ran Cyflogau Uwch-reolwyr, nododd y Pwyllgor y byddai'r Archwilydd Cyffredinol yn adrodd yn ôl ar ôl trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru.

</AI2>

<AI3>

2.1   Rheoli meddyginiaethau: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (30 Hydref 2017)

</AI3>

<AI4>

2.2   Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (6 Tachwedd 2017)

</AI4>

<AI5>

2.3   Cyflogau Uwch-reolwyr: Gohebiaeth gan Lywodraeth Cymru (8 Tachwedd 2017)

</AI5>

<AI6>

3       Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Sesiwn dystiolaeth 1

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru; Enid Roberts, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Cwsmeriaid a Chymunedau, Cartrefi Cymunedol Gwynedd; Katie Dalton, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru a Rhian Stone, Cyfarwyddwr Gofal a Chymorth yn Grŵp POBL a Chadeirydd Cymorth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i'r Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru.

</AI6>

<AI7>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI7>

<AI8>

5       Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid gyda'r pryderon a fynegwyd ynghylch y syniad arfaethedig o roi gorau i neilltuo cyllideb y Rhaglen Cefnogi Pobl a'r effaith y gallai hyn ei chael ar yr aelodau o'r gymdeithas sy'n agored i niwed.

5.2 Nododd yr Aelodau fod yr Archwilydd Cyffredinol yn rhagweld cyhoeddi adroddiad ar sut y mae llywodraeth leol yn rheoli'r galw am wasanaethau digartrefedd yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd y gellid ei ystyried fel rhan o'r ymchwiliad hwn.

 

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>